Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR SIOPAU BACH

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd am 11.00am ar 20 Ionawr 2016 yn Nhŷ Hywel

Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

YN BRESENNOL:

Janet Finch-Saunders AC (JFS)

Cadeirydd

Llyr Huws Gruffydd AC (LHG)

Aelod

Jenny Rathbone AC (JR)

Aelod

Hannah Moscrop (HM)

Swyddfa Janet Finch-Saunders AC

Edward Woodall (EW)

Cymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS)

Steve Dowling (SD)

Cymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS)

Adrian Roper (AR)

Ffederasiwn Cenedlaethol Siopau Gwerthu Papurau Newydd (NFRN)

Michael Weedon (MW)

BIRA

Rhodri Evans (RE)

Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

 

1.    Croeso a chyflwyniadau

 

Croesawodd JFS bawb i’r cyfarfod cyntaf o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach yn 2016, a gwahoddodd gyflwyniadau. Mae Llyr Huws Gruffydd yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros ranbarth Gogledd Cymru, a Jenny Rathbone yn Aelod Cynulliad y Blaid Lafur dros Ganol Caerdydd. Mae Adrian Roper yn Bennaeth Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu yn y Ffederasiwn Cenedlaethol Siopau Gwerthu Papurau Newydd (NFRN); Michael Weedon yn Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol ac yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu i Gymdeithas Manwerthwyr Annibynnol Prydain (BIRA); ac mae Rhodri Evans yn Uwch Ymgynghorydd Cyfathrebu yn y Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru. Mae Edward Woodall yn Bennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus a Steve Dowling yn Gynorthwy-ydd Materion Cyhoeddus y Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS).

 

2.    Ethol swyddogion

 

Ail-etholwyd JFS yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach gan LHG a JR. Etholwyd LHG a JR yn aelodau newydd o’r Grŵp gan JFS. Ail-etholwyd ACS i ddarparu Ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp. Canmolodd JFS y Gymdeithas am ei hymdrechion yn trefnu gwaith y Grŵp yn ystod 2015.

 

3.    Rhaglen o weithgarwch ar gyfer 2016

 

Nododd EW y byddai’r Grŵp Trawsbleidiol yn cynnal digwyddiad lansio ar gyfer Adroddiad Siopau Lleol Cymru, i godi ymwybyddiaeth o siopau lleol ymhlith gwneuthurwyr polisi yng Nghymru, ac i annog ymgysylltu a chyhoeddusrwydd. Bydd derbyniad yn cael ei drefnu yn y Cynulliad i Aelodau’r Cynulliad a manwerthwyr ddod ynghyd. Bydd y Grŵp Trawsbleidiol yn rhagweithiol o ran ei ymateb i’r materion sy’n codi ar yr agenda wleidyddol a siopau bach drwy gydol y flwyddyn.

 

4.    Cylch gorchwyl – Grŵp Datblygu Economaidd ar gyfer Strydoedd Mawr

 

Mae Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, wedi derbyn cynllun y Grŵp Trawsbleidiol i gynhyrchu dogfen ganllawiau i’w defnyddio gan awdurdodau lleol i gefnogi eu stryd fawr. Dywedodd EW y byddai gofyn am gyfraniad gan amryw o gymdeithasau masnach i’r prosiect hwn, ac am gyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau a’i argymhellion i’r Gweinidog cyn eu cyhoeddi.

 

5.    Cynllun gwaith

 

Amlinellodd EW bwysigrwydd cefnogi’r stryd fawr a’i rôl fel canolfan fasnach economaidd yn ein cymunedau lleol. Nododd EW fod Polisi Cynllunio Cymru, Pennod 10, yn ddogfen gref am ei bod yn tynnu sylw at werth canol trefi, ond nad yw polisi cryf o’r fath bob amser wedi arwain at weithredu effeithiol gan awdurdodau lleol. Dywedodd MW fod yn rhaid i’r Grŵp fod yn ymwybodol o dueddiadau o ran y farchnad fanwerthu. Yn benodol, mae manwerthu bwyd mewn canolfannau ar gyrion trefi yn dirywio, tra bod manwerthwyr nad ydynt yn gwerthu bwyd ar gyrion trefi yn ffynnu. Mae’r awydd am hwylustod yn duedd bwysig, yn ogystal â’r cynnydd yn nifer y siopau disgownt mewn canolfannau poblogaeth ddwys.

  

Nododd JFS y gwahaniaeth rhwng strydoedd mawr mewn cymunedau arfordirol, cymunedau gwledig a chymunedau dinesig. Cytunwyd y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Canllawiau sy’n deillio. Bydd angen cysylltu â’r Gynghrair Siopau Gwledig, iddi hithau gael y cyfle i ddarparu adborth i’r Grŵp. Nododd RE, bod angen sicrhau màs critigol ac amrywiaeth o ddeunyddiau i’w prynu er mwyn sicrhau bod unrhyw stryd fawr yn llwyddiannus. Dywedodd MW fod manwerthwyr yn gynyddol bellach yn gweld eu gorddrafftiau banc yn cael eu torri neu’u dileu’n llwyr, sy’n digwydd law yn llaw â chau llawer o fanciau lleol. Cytunwyd y byddai’r Grŵp yn cynnwys y sector bancio, drwy’r ‘Ymgyrch o blaid Gwasanaethau Bancio Cymunedol’.

 

Dywedodd EW y bydd y Grŵp yn edrych yn fanwl ar waith presennol ar y stryd fawr, er mwyn dechrau llunio dogfen ar strydoedd mawr sy’n benodol i Gymru. Dywedodd JR y dylai’r Grŵp edrych ar waith ‘Y Gymru a Garem’ o ran y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nododd RE y dylai’r Grŵp weithio ochr yn ochr â fframwaith ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’ Llywodraeth Cymru er mwyn osgoi dyblygu gwaith. Dywedodd JW, y gallai Panel Ardrethi Busnes diweddar, o dan gadeiryddiaeth Chris Sutton AC, lle’r oedd Edwina Hart AC yn bresennol, ddarparu gwybodaeth am effeithiolrwydd gweinyddu ardrethi busnes yng Nghymru ar hyn o bryd..

 

Gofynnodd EW i’r rhai a oedd yn bresennol pa feysydd y dylai’r adroddiad ganolbwyntio arnynt. Nododd MW fod trethi ar eiddo, cynllunio a pharcio yn dri maes pwyslais posibl. Cytunodd MW a BIRA i gyfrannu eu hystadegau a’u gwybodaeth am barcio, er mwyn helpu i nodi tueddiadau. Cytunwyd y byddai’r ddogfen ganllawiau yn newid un maes prif ffocws o ‘Barcio’ i ‘Fynediad’, i gydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus a rhwydweithiau ffyrdd i lwyddiant unrhyw stryd fawr.

 

Holodd RE ynghylch yr amserlen ar gyfer dogfen ganllawiau’r Grŵp Datblygu Economaidd ar gyfer Strydoedd Mawr. Ymatebodd EW drwy ddweud fod y Grŵp Trawsbleidiol yn awyddus i’w gweld yn cael ei chyhoeddi cyn y diddymu, er mwyn rhoi Strydoedd Mawr ar yr agenda newydd ar gyfer gweithredu yn dilyn etholiadau mis Mai. Cytunwyd y byddai angen i gamau rhagweithiol gael eu cymryd gan bob plaid a oedd yn bresennol er mwyn cyflawni’r gwaith angenrheidiol cyn y dyddiad cau hwn. Cytunwyd y byddai’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) yn dosbarthu papur briffio chwarterol i Aelodau Cynulliad penodedig a phartneriaid, i gynyddu ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth o waith y Grŵp. Cododd JFS werth defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer hyn. Penderfynwyd y gallai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gael eu sefydlu yn ôl llwyddiant y sesiynau briffio.

 

6.    Camau gweithredu a’r camau nesaf

 

Dywedodd EW y byddai’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra yn diweddaru’r map rhanddeiliaid, ac yn arwain y gwaith o ran yr adrannau Cynllunio a Pharcio o’r canllawiau. Cytunwyd y byddai  BIRA yn llunio’r adran ar Ardrethi Busnes yn y ddogfen ganllawiau. Bydd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn gweithio ochr yn ochr â’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra ar yr adran ar Weithio mewn Partneriaeth. Anogodd JFS y bobl a oedd yn bresennol i anfon cwestiynau i Weinidogion Cymru i’w swyddfa hi, i gael eu cyflwyno i gefnogi gwaith y Grŵp. Cododd JFS y mater, a fyddai o werth annog ymgysylltu gan Weinidogion traws-bortffolio? Cytunwyd y byddai’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra yn drafftio llythyrau sy’n nodi manylion y gwaith sydd ar y gweill gan y Grŵp, i Janet Finch-Saunders eu hanfon at Weinidogion.

 

7.    Unrhyw fater arall

 

Amh.

 

8.    Cloi

 

Diolchodd JFS i’r rhai a oedd yn bresennol, a daeth y cyfarfod i ben.